Aberystwyth at War Project 's profile picture

Aberystwyth at War Project

Dyddiad ymuno: 04/01/21

Amdan

Bywgraffiad CY: 
Rhedodd y prosiect, Aberystwyth a Rhyfel: Profiad, Effaith, Etifeddiaeth, 1914-1919, rhwng Mai 2018 a Thachwedd 2019. Archwiliodd effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar bobl a chymunedau Aberystwyth trwy ymdrechion cydweithredol gwirfoddolwyr, archifau lleol, y brifysgol, cymdeithasau hanes lleol, ysgolion, a grwpiau perfformio a chelf. Bu'r grwpiau hyn yn ymwneud â chofnodion amser rhyfel, llythyrau, papurau newydd, ffotograffau, cerddoriaeth, cofebion rhyfel a hanesion personol a gedwir yn sefydliadau ein partneriaid, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifdy Ceredigion ac Amgueddfa Ceredigion, yn ogystal ag yn Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth a lleoedd cyhoeddus yn yr ardal. Yn ystod y prosiect, cipiodd a dehonglodd dros 70 o fyfyrwyr a gwirfoddolwyr lleol yr hanesion cymunedol hyn mewn gweithgareddau, arddangosfeydd, perfformiad ac adnoddau ar-lein.