Hedd Wyn: 'Yr Arwr'

Eitemau yn y stori hon:

Yr Arwr

Pan alwyd ar enillydd y gadair, o dan y ffug-enw ‘Fleur-de-lis’, i ddod ymlaen i dderbyn ei wobr yn ystod seremoni cadeirio Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhenbedw ym 1917, ni chododd unrhyw un. Roedd Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans, 1887–1917), y bardd buddugol, wedi cael ei ladd ychydig wythnosau yn gynt ar faes y gad yn nghaeau Fflandrys. Gorchuddiwyd y gadair wag â gorchudd du ac o hynny ymlaen fe adnabyddwyd Eisteddfod Penbedw 1917 fel “Eisteddfod y Gadair Ddu”.

Ganed Ellis Humphrey Evans ar 13 Ionawr 1887, yn fab hynaf i Evan a Mary Evans, fferm Yr Ysgwrn, Trawsfynydd. Wedi iddo adael yr ysgol yn 14 oed bu’n gweithio fel bugail ar y fferm. Dechreuodd farddoni yn ei lencyndod a bu’n cystadlu mewn nifer o eisteddfodau lleol o dan y ffugenw ‘Hedd Wyn’. Datblygodd ei ddawn fel bardd, ac aeth ymlaen i ennill 6 cadair mewn eisteddfodau lleol a bu bron a chipio’i gadair gyntaf mewn Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth ym 1916.

Ystyrir Hedd Wyn yn un o feirdd amlycaf Cymru, a chredir gan lawer mai ei awdl ‘Yr Arwr’ yw ei gerdd fwyaf nodedig. Wedi i’r Rhyfel Mawr gychwyn ym 1914 canolbwyntiodd ar drafod hunllef y rhyfel yn ei farddoniaeth ac ysgrifennodd gerddi er cof am gyfeillion a fu farw ar faes y gad. Dechreuodd gyfansoddi ‘Yr Arwr’ ym mis Hydref 1916, cyn y gorfodwyd ef hefyd, o ganlyniad i’r Ddeddf Orfodaeth Filwrol 1916, i ymuno â’r fyddin a hwylio i Ffrainc ym mis Mehefin 1917. Cwblhaodd yr awdl tra oedd allan ar faes y gad, a’i phostio yn ôl i Gymru o bentref Fléchin yng ngogledd Ffrainc ym mis Gorffennaf 1917. O fewn ychydig wythnosau, ar 31 Gorffennaf 1917, roedd ef wedi colli ei fywyd ym mrwydr Cefn Pilkem ger Ieper (Ypres).

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi digido un o ddrafftiau terfynol Hedd Wyn o’i awdl fuddugol a gyflwynwyd iddi gan J. R. Jones o Lwyn Celyn, Trawsfynydd yn 1934. Mae’r llawysgrif yn cynnwys 25 o dudalennau ac arnynt ceir cywiriadau mewn pensil. Mae pedair rhan i’r awdl, ac mae’n cynnwys dau brif gymeriad, ‘Merch y Drycinoedd’ a’r ‘Arwr’. Caiff ‘Merch y Drycinoedd’ ei hystyried yn symbol o gariad, harddwch natur a’r awen greadigol, a chymeriad ‘Yr Arwr’ yn symbol o ddaioni, tegwch, rhyddid a chyfiawnder, a chredir mai drwy ei aberth ef, ac uniad y ddau gymeriad ar ddiwedd yr awdl, y daw oes well. Credir bod Hedd Wyn yn dyheu am ddynoliaeth berffaith a byd perffaith yn ei awdl, a hynny ar adeg o ansefydlogrwydd enfawr yng nghysgod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’n bosib gweld fersiwn ddigidol o’r llawysgrif hon ar Ddrych Digidol y Llyfrgell.