Trychineb Aberfan

Eitemau yn y stori hon:

  • 3,449
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,625
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,579
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,451
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Diwrnod ysgol arall

 

 

Roedd y trychineb a ddigwyddodd ym mhentref Aberfan ar 21 Hydref 1966 yn bendant yn un o drasiedïau mwyaf ingol yr ugeinfed ganrif. Pan lithrodd y domen lo wastraff i lawr ochr y mynydd, gan lyncu'r ysgol gynradd, fferm a thua ugain o dai, roedd y golled yn aruthrol. Collodd cyfanswm o 144 o bobl eu bywydau, gan gynnwys 116 o blant ysgol.

Yr oedd ychydig wedi naw o'r gloch ar y bore Gwener hwnnw pan ddechreuodd wyneb deheuol tomen lo rhif 7 Glofa Merthyr Vale symud. Roedd plant ysgol newydd ddychwelyd o'u gwasanaeth yn Ysgol Pantglas, yn barod i ddechrau dosbarthiadau'r diwrnod pan glywyd sŵn byddarol o'r bryn uwchlaw'r pentref. Eiliadau'n ddiweddarach, llifodd miloedd o dunelli o wastraff glo du tuag at Aberfan, gan wastatáu ffermdy'n gyntaf, cyn taro'r ysgol gynradd, siopau a thai, a rhan o'r ysgol uwchradd gyfagos nad oedd yn agor ei drysau tan 9.30. Daliwyd plant ac oedolion gan y llaid a'r slyri a lenwodd yr ystafelloedd dosbarth a'r cartrefi.

Yr ymdrech achub

Cyrhaeddodd achubwyr mewn chwinciad, a cheisio'n daer i ryddhau'r bobl a oedd wedi'u dal o dan bwysau'r gwastraff. Achubwyd sawl plentyn ysgol yn y munudau cyntaf hynny cyn i fwy a mwy o gymorth cyrraedd. Gellid clywed sgrechiadau o dan y malurion wrth i bobl balu gyda'u dwylo yn eu hanobaith i geisio cyrraedd y rheini a oedd wedi'u dal.

Canodd y gloch argyfwng yng Nglofa Merthyr Vale a daethpwyd â'r glowyr i fyny i'r wyneb. Aethant ar frys i'r ysgol i ymuno â'r achubiad gyda'u hoffer yn eu dwylo. Fe helpodd eu sgiliau i roi trefn ar yr ymdrechion, gan ffurfio timau a thwnelu i mewn i leoedd y credent y gallai pobl fod.

Yn araf deg, daethant o hyd i gyrff o dan y malurion. Bob nawr ac yn y man byddai achubwr yn gweiddi am dawelwch i wrando am sgrechiadau'r bobl isod. Un ar ôl y llall, codwyd plant ifanc a'u pasio ar hyd y llinell a oedd wedi ffurfio i'r ambiwlansiau. Daethpwyd o hyd i rai'n fyw yn syth ond ni chafwyd neb yn fyw wedi 11 y bore hwnnw. Cymrodd wythnos i gasglu'r cyrff i gyd.

Ar ôl y trychineb

Daeth pobl o dros y wlad i gyd i helpu wrth i luniau o'r drasiedi ledaenu dros y byd. Arweiniodd yr awydd hwn i helpu at gyfraniadau o £1.75 miliwn i Gronfa'r Trychineb.

Cyn hir, dechreuodd pobl chwilio am atebion. Trodd tristwch yn ddicter wrth i'r Bwrdd Glo Gwladol geisio difeio'i hun o gyfrifoldeb. Hawliodd Arglwydd Robens, Cadeirydd y Bwrdd, yr achoswyd y digwyddiad gan nant yn llifo i mewn i'r tomennydd, a'u hansefydlogi, a’i fod yn amhosibl gwybod bod y nant yno. Ond roedd pobl yn y pentref eisoes wedi codi pryderon ynglŷn ag ansefydlogrwydd y tomenni gwastraff a oedd yn cysgodi Aberfan ac ni wnaed dim amdanynt.

Roedd canlyniadau'r tribiwnlys a sefydlwyd i ymchwilio'r trychineb yn ddamniol. Condemniwyd y Bwrdd Glo am ei fethiant i ymateb i bryderon a godwyd  ynglŷn â diogelwch y tomenni a beirniadwyd y llywodraeth. Ond ni erlynwyd, ni ddirwywyd na ni ddiswyddwyd unrhyw un, ac ni dderbyniodd unrhyw un y cyfrifoldeb am y drasiedi.

Chwilio am atebion

Dechreuodd ymgyrch i glirio'r tomenni ond ni atebwyd galwadau pobl Aberfan a oedd yn byw yn eu cysgod. Arweiniodd eu rhwystredigaeth at ollwng bagiau o laid yn y Swyddfa Gymreig. Pan gytunodd y llywodraeth yn y pendraw i symud y tomenni, gofynnwyd i'r pentref dalu £150,000 o Gronfa'r Trychineb tuag at y gwaith. Ad-dalwyd yr arian hwn i bobl Aberfan yn y pendraw gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym 1997.

Daeth trasiedi Aberfan mewn cyfnod pan oedd glo yn dal i fod yn bwysig iawn yng Nghymru, ac roedd llawer yn derbyn bod pris i'w dalu am lwyddiant y diwydiant. Ond roedd Aberfan yn bris rhy uchel ac ysgogwyd y diwydiant glo i weithredu i wella diogelwch yn y glofeydd a'u tomenni.