Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ym 1939 roedd yr haearn smwddio’n ail i’r radio fel y cynnyrch trydanol mwyaf cyffredin yn y cartref.

Cyn dyfodiad trydan roedd nifer o wahanol ffyrdd o smwddio.

Câi’r haearn ‘sad’ neu ‘fflat’ ei dwymo ar y tân neu’r popty. Slyg o fetel wedi ei dwymo ymlaen llaw, neu lwmp o siercol gwinias oedd yr haearn bocs. Byddai haearn nwy’n gysylltiedig â thiwb rwber i fantl nwy. Roedd haearn wedi eu twymo a gwirod neu betrol ar gael hefyd er eu bod ychydig yn ddrutach.

Y broblem fwyaf gyda’r heyrn didrydan cynnar yma oedd eu bod yn fudr a’i bod yn anodd rheoli’r tymheredd yn aml. Byddai llawer o amser yn cael ei wastraffu’n eu twymo i’r tymheredd iawn.
Defnyddiwyd heyrn trydan am y tro cyntaf yn Ffrainc ym 1880.

Dechreuwyd defnyddio rheolyddion gwres yn y 1930au.

Gwnaethpwyd yr haearn stem cyntaf gan Hoover ym 1953.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw