Disgrifiad

Cyfres o luniau yn dehongli bywyd Richard Robert Jones, Aberdaron (Dic Aberdaron) gan Ellis Owen Ellis. Ganed Ellis (1813-1861) yn Aber-erch, Sir Gaernarfon, a threuliodd nifer o flynyddoedd yn gweithio yn Lerpwl.

Ganed yr ieithydd a'r crwydryn Richard Robert Jones neu 'Dic Aberdaron' (1780-1843) ym mhentref Aberdaron, Sir Gaernarfon. Er na dderbyniodd fawr o addysg ffurfiol, dywedir ei fod yn siarad o leiaf 14 o ieithoedd yn rhugl. Treuliodd nifer o flynyddoedd yn teithio'r wlad gyda'i lyfrau a'i gath! Claddwyd ef ym mynwent Llanelwy ym 1844.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw