Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â gwisg merched o haenau is cymdeithas yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg. Mae'r llawysgrif hon yn bwrw rhywfaint o oleuni ar y pwnc.

Rhestr yw'r llawysgrif o daliadau gan Ieuan ap Rees ap David o Wicwer, Sir Ddinbych, i'w forwyn 'Ellin vawr'. Gwnaed llawer o'r taliadau iddi nid mewn arian ond mewn rhoddion o ddillad neu frethyn i wneud dillad. Cofnodir y prisiau a dalwyd gan Ieuan am y dillad a'r brethyn yn y rhestr. Mae'r rhestr fwyaf gynhwysfawr yn Gymraeg, ond rhestrir rhai o'r eitemau sydd ar y rhestr hon hefyd mewn rhestr fyrrach Saesneg.

Yn ôl nodyn ar ddechrau'r rhestr mae'n gopi o'r rhestr wreiddiol a wnaed oherwydd achos llys lle roedd Ieuan ap Rees ap David yn ddiffynnydd ac Elin a George Gruff[ydd] ap D[avid] ap M[ered]edd yn achwynwyr. Ymddengys felly i'r rhestrau gael eu copïo wedi i Elin ymadael â'i swydd a phriodi.

Roedd Ieuan ap Rees ap David yn aelod o deulu bonheddig y Lloydiaid a bu ei fab, John Lloyd, yn gofiadur Dinbych. Bu farw Ieuan rywbryd tua 1600-1610.

Oherwydd nifer yr eitemau o ddillad ar y rhestr mae'n debyg iddi gael ei llunio dros nifer o flynyddoedd. Ymddengys fod Ieuan yn gyflogwr eithaf hael - gwnaed rhai eitemau o'i frethyn ei hun ac ni chodwyd tâl am y rhain. Mae'n ddiddorol nodi prisiau gwahanol eitemau, fel 3 ceiniog am bâr o fenig ac 8 swllt am het ffelt o Gaer. Gwnaed ffedogau a smociau o liain fel arfer ond jercinnau a pheisiau o frethyn neu wlanen. Yn ogystal â'r eitemau iwtilitaraidd fel peisiau a smociau, cyflenwyd Elin ag eitemau mwy addurniadol fel coleri a rhuban i ddal ei gwallt.

[Darllen pellach: Megan Ellis,' Dress and dress materials for a serving maid, circa 1600', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyfrol 1 (1939). Aberystwyth : Llyfrgell Genedlaethol Cymru]

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw