Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Y Dref Newydd
Mae arolwg a wnaed ym 1334 yn crybwyll bod bwrdeistref Dinbych y tu mewn i'r muriau yn ogystal â thref masnachwyr y tu allan iddynt. Ond mae'n fwy na thebyg i'r dref yr ydym yn gyfarwydd â hi heddiw ddatblygu o ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen wedi i Jasper Tudor, Iarll Penfro, losgi tref Dinbych a gosod ei chastell dan warchae ym 1468 ar ddiwedd Rhyfel y Rhosynnau. Yn wir, wrth ysgrifennu yn ystod y 1530au, fe ddywedodd John Leyland fod y dref newydd yn 'clere defacid with fier'. Dywedodd hefyd fod tref bresennol Dinbych,
'hath beene made of later time, and set much more to commoditie of cariage and water by many welles in it. And the encrease of this was the decaay of the other' (sef y dref furiog).
Ildiwyd y castell i'r Senedd ar ddiwedd y Rhyfel Cartref a'i ddatgymalu'n rhannol ym 1660.
Gellir gweld llawer o'r dref newydd honno ar Fap 1610 John Speed, gan gynnwys yr adeiladau sy'n ymwthio i Market Square rhwng High Street a Lôn Cefn. Mae llawer o'r strydoedd yno hyd heddiw ac ar hyd-ddynt saif amryw o'r adeiladau domestig cynharaf sydd wedi goroesi. Maent yn dyddio o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg. Yn eu plith, hefyd, mae amryw o dai chwaethus a godwyd tua chanol y ddeunawfed ganrif ar hyd Stryd y Dyffryn.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw