Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Paratowyd y rysait yma yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012 fel rhan o ymgyrch Blas y Brifwyl gan Cymru'r Gwir Flas a Casgliad y Werin Cymru.

Cynhwysion ar gyfer y Toes crwst brau
250g blawd plaen
125g menyn
pinsiad o halen
dwr neu wy i gludo'r toes
Dull
Hidlwch y blawd i bowlen, ychwanegwch y menyn a'i rwbio i mewn gyda'ch bysedd i edrych fel briwsion bara.
Taenwch yr halen dros y gymysgedd, yna ychwanegwch 2-3 llwy fwrdd o ddŵr neu wy (cludo gyntaf) a chymysgu nes yn does cadarn. Tylinawch y toes ar fwrdd gyda arwyneb o flawd arno.


Cynhwysion ar gyfer y llenwad
2 wy
Hanner peint o laeth
1 llwy bwdin o flawd plaen
Ychydig o halen
2 llwy fwrdd o siwgr
1 llwy bwdin o bersli wedi torri'n fan
12oz o facwn, deisiog

Dull
Leiniwch ddysgl pastai ddofn gyda'r does. Cymysgwch y blawd gydag ychydig o'r llaeth.
Curwch yr wyau mewn powlen fawr, arllwyswch weddill y llaeth i mewn ac yna ychwanegwch y gymysgedd llaeth a blawd, yr halen, siwgr a'r persli.
Cymysgwch yn dda ac arllwyswch ar y does. Yn olaf, ychwanegwch y bacwn a phobwch mewn popty gweddol gynnes am hanner awr, neu tan fod y gymysgedd wedi coginio.

Mi fyddai'r pastai yn aml yn cael ei bwyta yn oer i de prynhawn. Dyma esiampl o ryait adeg yr Ail Rhyfel Byd

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw