Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dol swffragét yn cario bag llaw ysgafn gyda'i henw mewn inc - Miss Flora Copper. Yn ei llaw dde mae baner gyda'r geiriau: "Votes for Women".Mae'n bosibl mai dol i wneud hwyl am ben y swffragetiaid oedd hon. Gall yr enw fod yn chwarae ar y geiriau Saesneg, 'Floor a Copper'.Roedd menywod wedi bod yn ymgyrchu dros y bleidlais ers canol y 1860au. Roedd ymgyrchwyr milwriaethus a heddychlon yn ymgyrchu yng Nghymru, a'r cyfarfodydd yma rhwng y gwrthdystwyr a'r awdurdodau gyda'r mwyaf tanbaid y tu allan i Lundain. Enillwyd hawliau pleidleisio cyfartal i ddynion a menywod ym 1928.Rhif caffael: 13.41.11

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw