Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ar  2 Tachwedd 1925, torrodd yr argae yn Llyn Eigiau a gorlifodd y dyfroedd gan ddinistrio'r gronfa yn y Coedty ac yna ffrydio'n wyllt i lawr y dyffryn. Lladdwyd 16 o bobl - 6 ohonynt yn blant - a dinistriwyd popeth gan y llif. Byddai'r golled wedi bod hyd yn oed yn fwy pe na bai cyfran helaeth o bentrefwyr Dolgarrog wedi bod yn edrych ar ffilm sinema yn yr Assembly Rooms ar y pryd. Cofnododd y cwêst reithfarn o farwolaeth ddamweiniol yn achos y rhai a laddwyd yn y drychineb.  Daeth i'r amlwg  nad oedd gan argae Llyn Eigiau seiliau addas, a bod y concrid a ddefnyddiwyd o safon isel. Serch hyn ni ddygwyd unrhyw achos yn erbyn yr un unigolyn na chwmni oedd yn gysylltiedig â chodi na chynnal a chadw'r argae. Mae'r ffotograff hwn yn dangos y dinistr a ddaeth yn sgil y drychineb ar Ffordd Conwy-Llanwrst.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw