Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Angladd y ddau ddyn ifanc, sef Leonard Worsell a John John, a saethwyd gan filwyr yn ystod Terfysgoedd Streic y Rheilffyrdd yn Llanelli ym 1911.

'Yr Aflonyddwch Mawr' yw'r enw a roddir ar y cyfnod rhwng 1908 a 1914, pan fu nifer o anghydfodau diwydiannol ym Mhrydain. Yn ne Cymru, aeth glowyr cwmni'r Cambrian Combine ar streic, gan wrthdaro gyda'r fyddin yn Nhonypandy ym 1910; ac arweinodd streic gan ddocwyr Caerdydd at ymosodiadau ar gymuned Tseinieaidd y dref.

Yn ystod haf 1911, aeth gweithwyr rheilffyrdd Prydain ar streic gan achosi anhrefn mewn rhannau o'r wlad a galwyd ar y fyddin i ymyrryd er mwyn cadw'r trenau i redeg. Ddydd Iau, 17 Awst, daeth y trenau i stop yn Llanelli pan safodd y streicwyr ar un o'r croesfannau yn y dref. Y diwrnod canlynol, galwyd ar y fyddin i glirio'r llinell ond yn fuan iawn collwyd rheolaeth ar y sefyllfa, darllenwyd y Ddeddf Derfysg, taniwyd sawl ergyd, a lladdwyd dau ddyn diniwed (Leonard Worsell a John John). Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ymgasglodd torf gan ymosod ar gartref a lle gwaith un o'r ynadon lleol a fu'n bresennol yn y digwyddiad cynharach. Tua'r un adeg, cafodd nifer o wagenni rheilffyrdd a oedd yn cludo tanwyr eu rhoi ar dân, gan achosi ffrwydriad a laddodd pedwar o bobl gan anafu nifer o bobl eraill.

Darllen pellach:
John Edwards, 'Remembrance of a Riot: the story of the Llanelli Railway Strike Riots of 1911' (Llanelli Borough Council, 1988).

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw