Y Capel a'r Maen

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,290
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,158
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 992
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Diwedd y byd?



Mae'n rhaid fod trigolion pentrefan Drws-y-coed wedi meddwl ei fod yn ddiwedd y byd ar brynhawn ddydd Mercher, 17 Chwefror 1892, pan gwympodd clogfaen anferth o ochr y mynydd ar do'r capel islaw.


Agorwyd capel Drws-y-coed ym 1836 a safai wrth droed Clogwyn y Barcud, y mynydd lle'r oedd mwynwyr yn cloddio am gopr oddi tano.  Yn ddwfn y tu mewn i'r mynydd byddai'r mwynwyr yn ffrwydro'r graig yn ystod pob un o'r tair sifft bob dydd er mwyn echdynnu mwyn.  Byddai hyn yn anfon crynfeydd drwy'r cwm sawl gwaith y dydd.  Dywedir fod y crynfeydd weithiau mor gryf y byddai llestri ar ddreseri cartrefi cyfagos yn siglo.


Mae'n ymddangos yn wyrthiol felly nad oedd mwy o glogfeini wedi cwympo o ochr y mynydd.



Dihangfa lwcus




 



Aeth y graig a gwympodd ar y prynhawn hwnnw o Chwefor yn syth drwy do'r capel gan adael twll enfawr na ellid ei drwsio.  Yn nhŷ'r capel y drws nesaf roedd corff dyn lleol, William Morris, yn gorwedd ac roedd gwylnos wedi'i threfnu ar gyfer y noson honno.  Yno ar y pryd, yn gofalu am y weddw alarus oedd Annie Francis, Mary Evans o Fferm Drwscoed a Mrs Japheth o Bwllheli a oedd yn 90 oed.  Roedd yn ffodus iawn mai’r capel yn unig y trawodd y clogfaen ac nid y tŷ drws nesaf.



Cymaint oedd y difrod i'r capel fel nad oedd posibilrwydd ei ailadeiladu a dechreuodd y trigolion lleol godi arian er mwyn adeiladu capel newydd. Cawsant gynnig brydles ar dir ar draws y ffordd o safle gwreiddiol y capel gan y tirfeddiannwr lleol, Assheton Smith Ysw. o Stâd y Faenol, Bangor.  Amcangyfrifir mai cost adeiladu'r capel newydd a'r tŷ oedd tua £550 a thrwy ymdrech a gwaith caled 56 aelod y capel, ad-dalwyd y ddyled ymhen dim.




Ail-adeiladu




Roedd y capel newydd yn barod ychydig dros flwyddyn wedi'r digwyddiad trychinebus ac fe gafwyd y gwasanaeth cyntaf yno ym Mhasg 1893.  Roedd y pentref wedi bod heb gapel am bedwar mis ar ddeg ac yn ystod y cyfnod hwnnw cynhaliodd breswylwyr wasanaeth y Sul yn eu cartrefi yn eu tro.   Roedd ailadeiladu'r capel yn waith mawr ac mae sôn yr oedd un dyn, yn fwy na neb arall, yn ysbrydoliaeth.  Byddai Hugh Jones o Dalymignedd Isaf yn cerdded o amgylch yr ardal gyda dwy ffon.  Pe gwelai garreg a fyddai'n addas ar gyfer y gwaith adeiladu, byddai'n galw ar bwy bynnag oedd agosaf i'w helpu i godi'r garreg ar ei gefn ac yna byddai'n ei chario i'r capel.



Trwy'r fath ymdrechion y llwyddwyd i ailadeiladu’r capel a’i ail-agor ym 1893.



Mae'r capel yn cael ei ddefnyddio hyd heddiw er bod poblogaeth Drws-y-coed yn llai o lawer nag oedd yn anterth y cloddfeydd copr.  Pan oedd y cloddfeydd ar eu prysuraf, byddai tua 250-300 o bobl yn mynychu capel ar ddydd Sul ond ers iddynt gau ym 1924 mae poblogaeth yr ardal wedi disgyn.  Ar draws y ffordd i'r capel newydd mae'n bosibl gweld olion yr hen adeilad ac mae'r graig yn yr un man y disgynnodd ar y prynhawn hwnnw yn Chwefror.