Ffotograffau gan Robert Thompson Crawshay
Dyma gasgliad o ffotograffau gan Robert Thompson Crawshay, un o “Frenhinoedd Haearn” y teulu Crawshay a Meistr Gweithfeydd Haearn Cyfarthfa. Cafodd Robert Thompson Crawshay ei eni ym 1817, ac ef oedd y 4ydd yn llinach Meistri Haearn y teulu Crawshay. Ef oedd mab hynaf William Crawshay II o’i ail briodas a chymerodd reolaeth o Weithfeydd Haearn Cyfartha ar ymddeoliad ei dad. Yn ogystal â rheoli un o’r gweithfeydd haearn mwyaf yn y byd, roedd Robert hefyd yn caru cerddoriaeth ac fe ddechreuodd ei fand pres ei hun, Band Cyfarthfa. Pan oedd yn 42 oed dechreuodd iechyd Robert ddirywio ar ôl iddo ddioddef pwl o lid yr ymennydd a strôc a’i gadawodd yn hollol fyddar ac yn methu â gwrando ar gerddoriaeth. Er mwyn mynd â’i feddwl oddi ar hyn dechreuodd Robert ymhél â ffotograffiaeth, gweithgaredd newydd nad oedd ond y cyfoethog yn gallu ei fforddio. Dros 20 mlynedd nesaf ei fywyd, ymroddodd Robert lawer o’i amser i ffotograffiaeth ac fe drefnodd i stiwdio ffotograffig newydd gael ei hadeiladu yn ei gartref yng Nghastell Cyfarthfa.