Barddoniaeth Cymraeg

Casgliad o farddoniaeth ac eitema'n ymwneud â rhai o hoff feirdd ac awduron Cymru.
Mae'r pennill hwn yn coffáu un o achlysuron mwyaf cofiadwy rygbi yng Nghymru pan gurwyd y Crysau Duon o 3-0 yng Nghaerdydd ar 16 Rhagfyr 1905.
Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Ganed T. H. Parry-Williams (1887-1975) yn Rhyd-ddu, Sir Gaernarfon, ac ef oedd Athro'r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, rhwng 1920 a 1952. Roedd Parry-Williams nid yn unig yn ysgolhaig o fri,...
Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Ganed Ifor Williams (1881-1965) yn Nhre-garth, Sir Gaernarfon. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor, ac yn aelod o staff yn Adran y Gymraeg. Derbyniodd Gadair bersonol ym 1920 a daeth yn Bennaeth...
Tynnwyd y ffotograff gan John Thomas, 1867. Ganed J. Ceiriog Hughes (1832-87) yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Sir Ddinbych. Treuliodd gyfnod ym Manceinion a bu'n gweithio fel clerc ar y rheilffordd yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru ym 1868 pan gafodd...
Cafodd y Peithynen, neu'r llyfr pren, ei ddyfeisio gan Iolo Morganwg (1747-1826) a gŵyr llen Morgannwg, i gefnogi eu honiadau eu bod yn ddisgynyddion i'r derwyddon. Mae llinellau cerdd wedi'u cerfio ar bedair ochr pob ffon. Yr enw ar y...
Enillwyd y Goron hon gan R. Silyn Roberts (1871-1930) yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902. Cyhoeddwyd ei bryddest fuddugol yn ddiweddarach yn y gyfrol 'Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill' (1904). Cynlluniwyd y Goron hon gan Harold Rathbone o Lerpwl....
Enillwyd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Bangor ym 1902 gan T. Gwynn Jones (1871-1949) am ei awdl 'Ymadawiad Arthur'. Ystyrir y gerdd hon yn garreg filltir yn hanes llenyddiaeth Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif, ac fe'i chyhoeddwyd yn ei ffurf derfynol ym...
Dyma ddarn o waith gan y Parchedig William Williams, Pantycelyn (1717-1791), yn ei law ei hun. Nid yw'n ymddangos i'r darn hwn gael ei gyhoeddi erioed. Ganed 'Williams Pantycelyn' yng Nghefn-coed, ger Llanymddyfri ym mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin....
Heb os, 'Myfanwy Fychan o Gastell Dinas Bran' gan John Ceiriog Hughes (1832-87) oedd un o gerddi mwyaf poblogaidd Cymru oes Victoria. Gwobrwywyd y rhieingerdd (cerdd serch) hon yn Eisteddfod Fawr Llangollen, 1858, a gwnaeth argraff fawr ar Gymry'r oes....
Clip fideo yn dangos cadeirio T. Llew Jones yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy. Cafodd T. Llew ganmoliaeth am ei waith gan y beirniaid mewn cystadleuaeth o safon uchel iawn.
T. Llew Jones was chaired at the Ebbw Vale Eisteddfod in 1958 for his poem, 'Caerllion-ar-Wysg'. He was chaired again the following year at Caernarfon. Photographed by Geoff Charles. Reproduced by kind permission of The National Library of...
Dyma dudalen gyntaf llawysgrif 'Yr Arwr' gan Hedd Wyn, yr awdl fuddugol yn Eisteddfod Penbedw 1917 a enillodd iddo'r Gadair ychydig wythnosau ar ôl ei farwolaeth trist ym Mhilkem Ridge yn Ypres.
Gwallter Mechain's winning poem in the eisteddfod of 1819 to Sir Thomas Picton, Carmarthen's hero of Waterloo.
Teitl y gerdd hon yw 'O'r Niwl i'r Nef' gan Watcyn Wyn [a osodwyd ar gerddoriaeth yn hwyrach gan D. E. Williams] ac fe'i dilynir gan bennill Saesneg. Y mae'n ymddangos i fod yn llaw Owen Ashton.
 
  • Gadael sylw
  • Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw