Ymgyrchu

CLAERWEN RESERVOIR, ELAN VALLEY WATER SCHEME

Bywyd Gwyllt a Hamdden

Gydag amser, pan mae'r cymunedau anghyfannedd wedi ail-addasu a'r dadleuon wedi pylu, mae buddion bywyd gwyllt a hamdden cronfeydd dŵr yn dod yn amlwg. Mae'r uwchdiroedd sy'n amgylchynu bob un o'r cronfeydd dŵr a grybwyllwyd yn y stori hon i gyd yn cael eu diogelu oherwydd eu hecosystemau a'u tirweddau pwysig rhyngwladol.

Yn amgylchynu Llyn Efyrnwy mae'r Ardal Ddiogelwch Arbennig (SPA) a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI). Mae'r ardaloedd diogelwch hyn hefyd yn cynnwys Ardal Gadwraeth Arbennig (SAC) ‘Y Berwyn a Mynyddoedd de Clwyd’ a Gwarchodfa Natur Genedlaethol (NNR) Y Berwyn. Mae'n golygu bod deddfwriaeth genedlaethol a ryngwladol yn diogelu'r tir rhag datblygiad amhriodol.

Mae'r safle nawr yn cael ei reoli ar y cyd gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) a chwmni dŵr Severn Tyrent Water. Mae adar yn ffynnu ar y cynefinoedd rhostir sych, coetir, gorgors a thir ffermio ac mae cuddfannau gwylio adar, llwybrau natur a chanolfan ymwelwyr gyda digwyddiadau addysgol rheolaidd.

Mae cronfeydd dŵr Cynllyn Dŵr Cwm Elan yn rhan o Ardal Ddiogelwch Arbennig (SPA) ‘Elenydd-Mallaen’, ac mae dynodiadau eraill yn cynnwys AGA Elenydd, GNG Claerwen a deuddeg gwahanol SddGA. Maint Stad Elan yw wyth deg cilometr sgwâr, a Dŵr Cymru / Welsh Water sy'n berchen arni ac sy'n gyfrifol am y Ganolfan Ymwelwyr, yr argaeau a'r cronfeydd dŵr, y coetiroedd a'r rhan fwyaf o Lwybr Cwm Elan.

Mae lleoliad Llyn Celyn o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'r tir yn union o amgylch y gronfa ddŵr yn cael ei ddiogelu gan AddA, AGA, ac SDdGA ‘Migneint-Arenig-Dduallt’. Mae SddGA Ceunant Aberderfel hefyd yn agos i'r gronfa ddŵr. I lawr yr afon o'r argae mae Afon Tryweryn yn cael ei defnyddio gan y Ganolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol pan mae dŵr yn cael ei ryddhau, sy'n aml yn caniatáu chwaraeon dŵr gwyn yn ystod yr haf.

Mae gwylwyr adar, cerddwyr, beicwyr mynydd ac eraill sy'n gwerthfawrogi'r uwchdiroedd nawr yn aml yn ymweld ag ardaloedd cronfeydd dŵr Llyn Efyrnwy, Cwm Elan a Llyn Celyn. Caniataodd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CroW) 2005 fynediad at yr amgylcheddau mynydd a rhostir sy'n amgylchynu'r cronfeydd dŵr. Byddai cynlluniau'r dyfodol ar gyfer cronfeydd dŵr yn amodol ar ddeddfwriaeth amgylcheddol a chynllunio sy'n fwy caeth a basiwyd ers y 1990au.

Ffynonellau:

Wakelin,P  & Griffiths, R.A (2008)’Hidden Histories, Discovering the Heritage of Wales’ RCAHMW

www.abandonedcommunities.co.uk ,  by Stephen Fisk

www.elanvalley.org.uk/dams-reservoirs

www.ccw.gov.uk

www.rspb.org.uk

www.elanvalley.org.uk/dams-reservoirs)

www.snowdoniaguide.com/llyn_celyn.htm

Claire Parry, CBHC, 2 Tachwedd 2011

BlaenorolBlaenorol Pennod 5 o 5 NesafNesaf

Casgliadau

This text item has not yet been defined, Edit and Save to create.

• Lake Vrynwy
• Lake Vrynwy

• Gan RCAHMW
• Sgôr awdur: Awdurdodol 5/5
• Ychwanegwyd 10/10/2011
• A collection of photographs of Lake Vrynwy that was constructed between 1881 and 1888.
• Aelodau 0
• Eitemau 36
• Gadael Capel Celyn
• Gadael Capel Celyn

• Gan GatheringTheJewels
• Sgôr awdur: Awdurdodol 5/5
• Ychwanegwyd 16/04/2010
• Ffotograffau gan Geoff Charles o'r dyddiau diwethaf yng Nghapel Celyn cyn boddi Dyffryn Tryweryn i gyflenwi dinas Lerpwl â dŵr.
• Aelodau 0
• Eitemau 27

Related

Related By Theme

• Protest Pont Trefechan, 2 Chwefror 1963

Protest Pont Trefechan, 2 Chwefror 1963 GatheringTheJewels

• Protest Pont Trefechan, 2 Chwefror 1963

Protest Pont Trefechan, 2 Chwefror 1963 GatheringTheJewels

• Booklet mourning death of protester Helen Thomas

Booklet mourning death of protester Helen Thomas WomensArchiveWales

• Protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg GatheringTheJewels

• Booklet mourning death of protester Helen Thomas

Booklet mourning death of protester Helen Thomas WomensArchiveWales

• Booklet mourning death of protester Helen Thomas

Booklet mourning death of protester Helen Thomas WomensArchiveWales

• Protest Pont Trefechan, 2 Chwefror 1963

Protest Pont Trefechan, 2 Chwefror 1963 GatheringTheJewels

• Jenny Lynn Collection

Jenny Lynn Collection WomensArchiveWales

• Protest Pont Trefechan, 2 Chwefror 1963

Protest Pont Trefechan, 2 Chwefror 1963 GatheringTheJewels

• Booklet mourning death of protester Helen Thomas

Booklet mourning death of protester Helen Thomas WomensArchiveWales

browse