Cronfa ddŵr mwyaf dadleuol Cymru oedd Llyn Celyn yng Nghwm Tryweryn. Ym 1955 penderfynodd Corfforaeth Lerpwl fod angen cronfa ddŵr newydd arni am ei chyflenwad dŵr ac fe ddewisodd Cwm Tryweryn i'r gogledd o'r Bala.
Effeithiodd y lleoliad ar gymuned ffermio draddodiadol. Dyma un o'r cymunedau olaf yng Nghymru lle siaradai pobl yn Gymraeg yn unig. Byddai pentref Capel Celyn, deuddeg fferm, ysgol swyddfa bost a chapel a'i fynwent i gyd yn cael eu boddi gan y cynllun a oedd yn cael ei gynnig, (gweler y ddolen www.abandonedcommunities.co.uk). Symudwyd rhai o'r beddau o'r fynwent i bentref Llanycil, ac fe gafodd y rhai a arhosodd eu gorchuddio â choncrit.
Gwynfor Evans oedd llywydd Plaid Cymru ar y pryd ac ef oedd yn un o arweinwyr y protestiadau. Roedd rali fawr yn y Bala ym mis Medi 1956 ac ym mis Tachwedd roedd protest yn Lerpwl.
Ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl er bod gwrthwynebiad eang o nawdeg a phump o awdurdodau lleol, 210 o eglwysi, undebau llafur a sefydliadau gwleidyddol a gwirfoddol, ac oddi wrth 375 o unigolion.
Ar ddechrau'r 1960au cyfeiriwyd y protestiadau yn erbyn yr argae ei hun pan oedd yn cael ei hadeiladu. Pan agorwyd yr argae'n swyddogol ar 28 Hydref 1965 roedd gwrthdystiad gan aelodau Byddin Rhyddid Cymru. Canlyniad y protestiadau oedd cydnabyddiaeth wleidyddol fod angen i Gymru ddod yn wlad fwy annibynnol.
Yn ystod y 1950au a dechrau'r 60au, byddai'r geiriau 'Cofiwch Dryweryn' yn aml yn ymddangos mewn graffiti ar waliau ac ar beilonau. Daeth enw Tryweryn 'yn eicon o bryder cenedlaethol ar gyfer diogelu bywyd cefn gwlad Cymru a'r iaith Gymraeg' (dolen). Wrth ymyl yr A487, wrth i'r ffordd basio Llanrhystud, mae'r geiriau wedi'u hysgrifennu ar dalcen adfail tŷ. Dyma un o'r ychydig enghreifftiau o graffiti o'r cyfnod hwnnw sydd wedi goroesi, ac mae wedi cael ei adnewyddu a'i ailbeintio sawl gwaith. Yn 2009 sefydlwyd cronfa ariannol i drwsio a diogelu'r wal fel cofadail.
Mae'r gronfa ddŵr nawr yn rhan o system reolaeth Dyfrdwy ac mae dŵr sy'n cael ei ryddhau'n pasio trwy beiriannau hydro-electrig sy'n gallu cynhyrchu uchafswm o bedwar megawatt o ynni. I lawr yr afon o'r argae mae Afon Tryweryn yn cael ei defnyddio gan y Ganolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol pan mae dŵr yn cael ei ryddhau, sy'n aml yn caniatáu chwaraeon dŵr gwyn yn ystod yr haf.