O wrando ar y darn hwn, mae’n annhebyg y byddai neb yn cynnig mai o’r Gogledd y deuai Mrs Evans. Eto i gyd, mae nifer o nodweddion yn ei hiaith sydd nid yn unig yn ei chlymu â chyrion y De-orllewin ond hefyd yn awgrymu cysylltiad â’r Gogledd.
I O ran yr eirfa:
i Â’r De yn gyffredinol y cysylltir biti ‘tua’, ffwrn, pownd ‘pwys’, ac — yn wahanol i Mr Thomas o Garno — fe yw’r unig ffurf ar ‘ef’.
ii Ar y llaw arall, gogleddol yw allan a byrdde.
2 Ymddengys fod nifer o nodweddion yr acen yn sefydlog, e.e.
i hw, yn hytrach na chw, a geir yn hwech ‘chwech’.
ii e a geir mewn geiriau fel bydden ‘byddem’, nosweth ‘noswaith’, a llorie ‘lloriau’
3 Mwy cyfnewidiol yw eraill o nodweddion yr acen: mae’r rhain i bob diben yn ddeheuol ond dangosant hefyd fod y dafodiaith ar gyrion eithaf y Gogledd:
i mae’r dafodiaith i bob diben yn ddi-u, ond fe glywir u mewn rhai geiriau prin; enghraifft yn y darn hwn yw neud.
ii ansawdd yr l: clir ydyw fel rheol, ond ceir l dywyll y Gogledd hefyd yn achlysurol e.e. fel.
iii i o flaen terfyniadau: mae cneifo a padelled ‘padellaid’ yn ddeheuol, ond gogleddol yw meddyliwch.
iv h: fe’i ceir yn hapus, hanner, a honno, ond nid yn ’anner.
4 Nodwedd a gysylltir yn benodol â’r De-orllewin yw’r y dywyll mewn geiriau unsill: yr unig enghraifft yn y darn hwn yw tyns ‘tuniau’. Ar gyrion yr ardal sydd yn defnyddio y dywyll mewn geiriau fel mynd, byth, a pymp ‘pump’ y mae Blaenpennal, ac felly nid annisgwyl clywed i yn mynd a pump.
5 Sylwer yn arbennig ar y seiniau sydd yn cyfateb i ‘ae’ ac ‘oe’ yr iaith ysgrifenedig:
i llafariad seml, â, sydd yn mlân ‘ymlaen’, ond
ii deusain, oi, sydd yn erioed a poeth.