Teachers Area Task

Y Cyfnewid Traws-Iwerydd ym Mhorthcawl, 1957

Cymerodd Llywodraeth America basbort Paul Robeson oddi wrtho yn 1950. Golygodd hyn nad oedd e'n gallu teithio'r tu allan i UDA  i ganu ac i siarad. Cwynodd llawer o bobl a llywodraethau o bob rhan o'r byd am garchariad Paul yn UDA .

Ond yn 1957, roedd pobl Cymru yn gallu'i glywed eto'n canu'n fyw iddyn nhw. Trwy gyswllt ffôn wifren rhwng Prydain ac America roedd Paul yn gallu canu i gynulleidfa yn Eisteddfod y Glowyr ym Mhorthcawl o'i gartref yn Efrog Newydd. Ac roedden nhw'n gallu canu'n ôl iddo.


Perthynol

Ni chafwyd casgliadau


Lesson Details

  • Crëwyd 10/08/2010
  • Ychwanegwyd gan South Wales Miners' Library
  • Sgôr awdur: Defnyddiwr 1/5