Defnyddir y term 'Cyfreithiau Hywel Dda' ar gyfer system o gyfraith frodorol Gymreig a enwyd ar ôl Hywel Dda (bu farw 950). Ef sy'n cael y clod am gyfundrefnu'r cyfreithiau hynny. Nid oes un o'r llawysgrifau cyfreithiol sydd wedi goroesi, fodd bynnag, yn gynharach nag ail chwarter y 13eg ganrif. Er eu bod yn cynnwys cyfreithiau sy'n tarddu o'r 12fed a’r 13eg ganrif, mae'r ysgolheigion yn gytûn bod y llawysgrifau'n cynnwys cnewyllyn o ddeunydd sy'n llawer iawn cynharach o ran dyddiad. Bychan o ran maint yw'r mwyafrif o'r llawysgrifau gan gynnwys Llawysgrif NLW 20143A (166 x 131 mm.). Cawsant eu cynllunio mae'n debyg yn llyfrau poced i'w cludo hwnt ac yma gan gyfreithwyr, yn hytrach na chael eu cadw ar silffoedd llyfrgelloedd.
Ni chafwyd gwybodaeth hawlfraint