Tystysgrif Ymadael Albert Rees Williams

Ganwyd Albert Rees Williams ym Mhontarddulais ar 14 Mehefin 1895, ac roedd yn löwr cyn ymuno â’r Welsh Regiment. Mae’n debyg iddo gael ei anafu ar y Somme ym 1916 – y stori yw bod siel a laddodd ddau o’i gyfeillion wedi anafu ei ben-glin. Cafodd ei ollwng gydag anrhydedd o’r fyddin ar 13 Hydref 1917, pan dderbyniodd y dystysgrif addurnedig hon.

Ni chafwyd gwybodaeth hawlfraint