Taliadau i forwyn, tua'r flwyddyn 1600, tudalen 1 o 6

Dangos ar fap Nôl i'r eitem
Allwedd
Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â gwisg merched o haenau is cymdeithas yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg. Mae'r llawysgrif hon yn bwrw rhywfaint o oleuni ar y pwnc. Rhestr yw'r llawysgrif o daliadau gan Ieuan ap Rees ap David o Wicwer, Sir Ddinbych, i'w forwyn 'Ellin vawr'. Gwnaed llawer o'r taliadau iddi nid mewn arian ond mewn rhoddion o ddillad neu frethyn i wneud dillad. Cofnodir y prisiau a dalwyd gan Ieuan am y dillad a'r brethyn yn y rhestr. Mae'r rhestr fwyaf gynhwysfawr yn Gymraeg, ond rhestrir rhai o'r eitemau sydd ar y rhestr hon hefyd mewn rhestr fyrrach Saesneg. Yn ôl nodyn ar ddechrau'r rhestr mae'n gopi o'r rhestr wreiddiol a wnaed oherwydd achos llys lle roedd Ieuan ap Rees ap David yn ddiffynnydd ac Elin a George Gruff[ydd] ap D[avid] ap M[ered]edd yn achwynwyr. Ymddengys felly i'r rhestrau gael eu copïo wedi i Elin ymadael â'i swydd a phriodi. Roedd Ieuan ap Rees ap David yn aelod o deulu bonheddig y Lloydiaid a bu ei fab, John Lloyd, yn gofiadur Dinbych. Bu farw Ieuan rywbryd tua 1600-1610. Oherwydd nifer yr eitemau o ddillad ar y rhestr mae'n debyg iddi gael ei llunio dros nifer o flynyddoedd. Ymddengys fod Ieuan yn gyflogwr eithaf hael - gwnaed rhai eitemau o'i frethyn ei hun ac ni chodwyd tâl am y rhain. Mae'n ddiddorol nodi prisiau gwahanol eitemau, fel 3 ceiniog am bâr o fenig ac 8 swllt am het ffelt o Gaer. Gwnaed ffedogau a smociau o liain fel arfer ond jercinnau a pheisiau o frethyn neu wlanen. Yn ogystal â'r eitemau iwtilitaraidd fel peisiau a smociau, cyflenwyd Elin ag eitemau mwy addurniadol fel coleri a rhuban i ddal ei gwallt. [Darllen pellach: Megan Ellis,' Dress and dress materials for a serving maid, circa 1600', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyfrol 1 (1939). Aberystwyth : Llyfrgell Genedlaethol Cymru]
Dyddiad: 0

Crëwr

Ieuan ap Rees ap David

Perchennog

The National Library of Wales

Tagiwyd fel (cliciwch ar un o'r tagiau i weld yr holl eitemau eraill sy'n ei rhannu)

cliciwch ar un o'r tagiau i weld yr holl eitemau eraill sy'n ei rhannu
Ychwanegwyd gan GatheringTheJewels
Casglu'r Tlysau / Gathering The Jewels
ar 29/01/2010
Sgôr awdur: Awdurdodol 5/5
A yw'r eitem hon yn ddefnyddiol?

Sylwadau

Beth mae hwn yn ei olygu i chi?

 

Ble arall y gellir dod o hyd i'r eitem hon?

Porwch drwy'r tabiau isod i weld ym mha gasgliadau, llwybrau a grwpiau mae'r eitem hon yn cael ei defnyddio.


Rhannu hwn

Facebook

Twitter

E-bost


Casgliad y Werin Cymru

Darganfod...

  • 46,550 eitem
  • 1,174 casgliad
  • 292 stori
  • 3,275 Cyfranwyr

A chyfrannu eich deunydd eich hun er mwyn rhannu eich hanes

Ymunwch i gyfrannu