'Fritters' Corn Biff o'r Ail Ryfel Byd

Nôl i'r eitem
Allwedd

<span lang="cy">'Fritters' Corn Biff o'r Ail Ryfel Byd</span>

Paratowyd y rysait yma fel rhan o weithgareddau 'Blas y Brifwyl' yn Eisteddfod Genedlaethol 2012 a oedd yn bartneriaeth rhwng Cymru'r Gwir Flas a Chasgliad y Werin Cymru.

Roedd yr un yma'n rysait boblogaidd yn ystod cyfnod dogni bwyd.

Cynhwysion:
2oz blawd hunan godi neu blaen
pinsiad o halen
1 wy (ffres neu sych)
joch o laeth
pinsiad o berlysiau (e.e. teim)
2 llwy de o winwns gratiedig
6oz corn-bîff
Ychydig o olew neu ‘dripping’

Dull:

Cymysgwch y blawd gyda’r halen, wy wedi curo a joch o laeth.
Curwch tan i chi gael cytew llyfn.
Ychwanegwch y corn-bîff, winwns a’r perlysiau.
Toddwch yr olew / dripping mewn padell.
Rhowch lwyaid o’r gymysgedd yn y badell a gwasgwch er mwyn creu pati bach. Mi
ddylai’r gymysgedd wneud 8 pati bach.
Ffriwch tan eu bod nhw’n frown ac yn grisp a gweinwch gyda llysiau neu salad.


Crëwyd gan

Unknown

Tagiwyd fel (cliciwch ar un o'r tagiau i weld yr holl eitemau eraill sy'n ei rhannu)

cliciwch ar un o'r tagiau i weld yr holl eitemau eraill sy'n ei rhannu
Ychwanegwyd gan GatheringTheJewels
Casglu'r Tlysau / Gathering The Jewels
ar 08/08/2012
Sgôr awdur: Awdurdodol 5/5
A yw'r eitem hon yn ddefnyddiol?

Sylwadau

Anon Y Mouse
Ychwanegwyd 11/11/2012

Disgwyl i gael ei gymedroli

Beth mae hwn yn ei olygu i chi?

 

Ble arall y gellir dod o hyd i'r eitem hon?

Porwch drwy'r tabiau isod i weld ym mha gasgliadau, llwybrau a grwpiau mae'r eitem hon yn cael ei defnyddio.


Rhannu hwn

Facebook

Twitter

E-bost


Casgliad y Werin Cymru

Darganfod...

  • 46,549 eitem
  • 1,174 casgliad
  • 292 stori
  • 3,278 Cyfranwyr

A chyfrannu eich deunydd eich hun er mwyn rhannu eich hanes

Ymunwch i gyfrannu