Allwedd eicon
Defnyddir y term 'Cyfreithiau Hywel Dda' ar gyfer system o gyfraith frodorol Gymreig a enwyd ar ôl Hywel Dda (bu farw 950). Ef sy'n cael y clod am gyfundrefnu'r cyfreithiau hynny. Nid oes un o'r llawysgrifau cyfreithiol sydd wedi goroesi, fodd bynnag, yn gynharach nag ail chwarter y 13eg ganrif. Er eu bod yn cynnwys cyfreithiau sy'n tarddu o'r 12fed a’r 13eg ganrif, mae'r ysgolheigion yn gytûn bod y llawysgrifau'n cynnwys cnewyllyn o ddeunydd sy'n llawer iawn cynharach o ran dyddiad. Bychan o ran maint yw'r mwyafrif o'r llawysgrifau gan gynnwys Llawysgrif NLW 20143A (166 x 131 mm.). Cawsant eu cynllunio mae'n debyg yn llyfrau poced i'w cludo hwnt ac yma gan gyfreithwyr, yn hytrach na chael eu cadw ar silffoedd llyfrgelloedd.
The National Library of Wales
Disgwyl i gael ei gymedroli
Porwch drwy'r tabiau isod i weld ym mha gasgliadau, llwybrau a grwpiau mae'r eitem hon yn cael ei defnyddio.
(c) The National Library of Wales.
Reproduced by kind permission of The National Library of Wales.
This resource can be used under the terms and conditions of the Creative Archives Licence.
Darganfod...
A chyfrannu eich deunydd eich hun er mwyn rhannu eich hanes
Ddim yn aelod? Cliciwch yma i gofrestru
Cliciwch yma os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair!
Cliciwch yma os ydych wedi anghofio'ch enw defnyddiwr