Cofnodion Achos y Siartwyr: Croesholiad William Davies o Goed-duon, cyf. 4, tudalen 22 [delwedd 1 o 4]

Dangos ar fap Nôl i'r eitem
Allwedd
Croesholiad William Davies yn ystod achos llys arweinwyr y Siartwyr, yn dilyn y Gwrthryfel yng Nghasnewydd, Tachwedd 1839. Roedd William Davies yn fab i siopwr o Goed-duon. Roedd wedi bod yn aelod o gyfrinfa'r Siartwyr yn lleol ers mis Mai 1839, ac felly, roedd wedi bod yn bresennol mewn nifer o'r cyfarfodydd cyfrinachol lle cafodd trefniadau'r ymosodiad ar Gasnewydd eu trafod. Wrth gael ei groesholi, aeth Davies ati i egluro mwy am drefniadaeth y Siartwyr yn yr ardal, gan esbonio sut yr oedd gan y gwahanol gyfrinfeydd ran benodol i'w chwarae yn yr ymosodiad. Fodd bynnag, er gwaethaf ei gysylltiad agos â'r mudiad, ni chwaraeodd Davies unrhyw ran yn y gwrthryfel ei hun, gan iddo benderfynu aros adref yng Ngoed-duon tan hanner dydd ar fore Llun, 4 Tachwedd 1839 - sef diwrnod yr ymosodiad ar Gasnewydd. Dywedir iddo gael ei wawdio'n ddiweddarach gan y gwragedd lleol am ei ymddygiad llwfr. Roedd penderfyniad Davies i roi tystiolaeth yn yr achos llys hwn yn cael ei ystyried yn drobwynt yn yr ymchwiliad, gan fod ganddo gymaint o wybodaeth gyfrinachol am y Siartwyr a'u harweinwyr. Fodd bynnag, yn ddiweddarach, penderfynodd dorri amodau ei fechnïaeth. Ffynhonnell: David J. V. Jones, 'The Last Rising: The Newport Insurrection of 1839' (Oxford, 1985).
Dyddiad: 1839

Perchennog

Newport Community Learning and Libraries

Tagiwyd fel (cliciwch ar un o'r tagiau i weld yr holl eitemau eraill sy'n ei rhannu)

cliciwch ar un o'r tagiau i weld yr holl eitemau eraill sy'n ei rhannu
Ychwanegwyd gan GatheringTheJewels
Casglu'r Tlysau / Gathering The Jewels
ar 09/12/2011
Sgôr awdur: Awdurdodol 5/5
A yw'r eitem hon yn ddefnyddiol?

Sylwadau

Anon Y Mouse
Ychwanegwyd 10/01/2013

Disgwyl i gael ei gymedroli

Anon Y Mouse
Ychwanegwyd 09/01/2013

Disgwyl i gael ei gymedroli

Anon Y Mouse
Ychwanegwyd 09/01/2013

Disgwyl i gael ei gymedroli

Anon Y Mouse
Ychwanegwyd 05/12/2012

Disgwyl i gael ei gymedroli

Beth mae hwn yn ei olygu i chi?

 

Ble arall y gellir dod o hyd i'r eitem hon?

Porwch drwy'r tabiau isod i weld ym mha gasgliadau, llwybrau a grwpiau mae'r eitem hon yn cael ei defnyddio.


Rhannu hwn

Facebook

Twitter

E-bost


Casgliad y Werin Cymru

Darganfod...

  • 46,549 eitem
  • 1,174 casgliad
  • 292 stori
  • 3,279 Cyfranwyr

A chyfrannu eich deunydd eich hun er mwyn rhannu eich hanes

Ymunwch i gyfrannu