FAQ

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

 

Beth yw Casgliad y Werin Cymru?

Gwefan yn llawn ffotograffau, recordiadau sain, dogfennau, fideos a straeon cyfareddol am hanes a threftadaeth Cymru a'i phobl. Casgliad y Werin Cymru yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Mae Casgliad y Werin Cymru yn dod â chasgliadau digidol y prif sefydliadau treftadaeth yng Nghymru at ei gilydd, ynghyd â chynnwys o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd llai, ac mae'n le gallwch rannu'ch stori am Gymru.

Mae'n cynnig mynediad cyflym a hawdd at dreftadaeth gyfoethog Cymru ac yn caniatáu i chi gyfrannu'ch cynnwys eich hun i wella'r amrywiaeth ar y safle ac i sicrhau y ceir hanes eich ardal chi.

 

Pwy ddatblygodd y safle?

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae'r wefan wedi'i datblygu gan y cwmni o Gymru, Sequence. Mae'n bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru ac mae llawer o bartneriaid eraill ynghlwm fel BBC Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, CADW, Croeso Cymru, Y Cerddwyr, S4C ac eraill.

 

Pam cyfrannu?

Mae gan bawb rhan o'r jig-so sy'n adrodd hanes Cymru, mi all fod yn sylw ar ffotograff sydd wedi codi atgof; neu lun, stori, llythyr, braslun, cerdyn post, recordiad (ffilm neu sain), cerdd neu gofrodd sy'n ychwanegu un darn arall i'r jig-so. Mae eitemau fel hyn yn cael eu hanghofio, eu colli, eu taflu, eu dileu, neu'n cael eu difrodi'n ddamweiniol bob dydd. Wrth ddefnyddio Casgliad y Werin Cymru i rannu'r eitemau hyn mae'n dreftadaeth genedlaethol yn tyfu ac yn cael ei chyfoethogi ac mae'n sicrhau cadwraeth yr eitemau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

Sut gall grwpiau cymunedol a hanesyddol lleol gyfrannu?

Mae Culturenet Cymru'n bartneriaid gyda Rhaglen Casgliad y Werin Cymru sy'n cydweithio gyda grwpiau cymunedol lleol er mwyn adeiladu sgiliau newydd a galluogi prosiectau digido cymunedol. Gellir cyfuno hyn â chyngor sy'n archwilio'r gwahanol ffyrdd i gyfrannu a defnyddio'r teclynnau sydd ar gael o fewn Casgliad y Werin Cymru.

Mae amrediad o ddyddiadau hyfforddi wedi'u trefnu ar gyfer eleni – cysylltwch drwy ddefnyddio'r ffurflen gysylltu i ddarganfod mwy.

 

Sut gallaf i gyfrannu?

Cofrestru

Cofrestrwch am gyfrif a chwaraewch ran. Mae cofrestru'n gyflym, syml ac am ddim – dewiswch enw defnyddiwr a rhowch gyfeiriad e-bost a chyfrinair i ni a byddwch yn barod i fynd.

Unwaith rydych wedi cofrestru, fe fydd gennych eich cyfrif eich hun lle gallwch gasglu at ei gilydd eitemau sy'n eich diddori ar y wefan yn eich llyfr lloffion, neu ddechrau ychwanegu ffotograffau a sylwadau neu adeiladu llwybrau a straeon.

Beth am roi tro arno heddiw?

 

Ychwanegu sylw

Fe fedrwch ddechrau cyfrannu ar unwaith, heb orfod cofrestru, drwy ychwanegu sylwadau. Mae blwch sylwadau o dan bob eitem ar y safle, teipiwch y sylw yn y blwch a gwasgwch 'cyflwyno'.

Fe all eich sylw helpu i:

  • adnabod lleoedd, adeiladau a phobl
  • gywiro gwybodaeth anghywir
  • roi gwybodaeth bellach
  • ateb cwestiynau
  • gynnig hanesynnau neu straeon sy'n gysylltiedig â'r eitem
  • ddechrau trafodaeth

 

Ychwanegu eitem

Ar bob tudalen y wefan mae blwch coch gyda'r gair 'Cyfrannu'. Yn y blwch hwn mae adrannau gallwch glicio i 'gyfrannu eitem'. Pan fyddwch yn clicio ar 'cyfrannu eitem' bydd gofyn i chi fewngofnodi, neu gofrestru os nad ydych wedi gwneud yn  barod. Yna mae proses cam wrth gam o ddewis yr eitem (o le mae wedi'i storio ar eich cyfrifiadur, ee. 'My Pictures'), i roi teitl a disgrifiad iddi, dyddiad, pwy â'i creodd a'i lleoli ar fap syml.

Pan rydych wedi ychwanegu'r holl wybodaeth, gwasgwch 'Cyflwyno ar gyfer Cymedroli'. Ar ddiwedd y broses, fe fydd eich eitem yn cael ei hychwanegu at y safle ac fe ellir ei gweld, yn gyntaf gennych chi'n unig, ac wedi iddi gael ei chymeradwyo drwy ei chymedroli, gan bawb sy'n ymweld â'r safle.

Mae eitemau y mae pobl wedi'u cyfrannu i'r wefan yn cynnwys:

  • Ffotograff o adeilad sydd erbyn hyn wedi diflannu
  • Hen lun ysgol
  • Ffotograff o ystafell o'r 1960au
  • Ffotograff yn dangos gwisg merched yn y 1930au
  • Stori am ymgilio o Gasnewydd i Rymni yn ystod y rhyfel
  • Recordiad o gân
  • Cerdd Eisteddfod wedi'i theipio
  • Hanes gweithio yng ngweithfeydd dur Glynebwy

Creu Casgliad

Unwaith rydych wedi ychwanegu rhai eitemau at y safle, efallai hoffech ddod â nhw at ei gilydd mewn casgliad sy'n adrodd stori lle, digwyddiad neu berson penodol. Fe fedrwch hefyd gynnwys eitemau a gyfrannwyd gan eraill at eich casgliad i wella'r stori hoffech ei hadrodd.

 

Fformatau ffeil a meintiau a ganiateir

Maint mwyaf ffeil wedi'i llwytho yw 64MB (65536KB)
Mae'r mathau o ffeiliau y gellir eu llwytho fel sy'n dilyn

  • Ffeiliau delwedd a ganiateir = .jpg, .gif, .png
  • Ffeiliau fideo a ganiateir = .flv, .mp4, .3gp, .avi, .mov, .wmv
  • Ffeiliau sain a ganiateir = .mp3, .wav, .wma
  • Ffeiliau testun a ganiateir = .txt, .htm, .html

 

Sut ydw i'n creu casgliad?

Unwaith rydych wedi cofrestru, ewch i Eich Cyfrif > Casgliadau > Creu Casgliad

Llenwch y ffurflen Creu Casgliad, gan roi teitl, ychydig o wybodaeth a phenderfynwch ar y gosodiadau aelodaeth a phreifatrwydd.

Unwaith rydych wedi creu'ch casgliad, fe fydd yr opsiwn i ychwanegu eitemau at y casgliad hwnnw'n ymddangos nesaf at bob eitem ar y safle. Porwch y safle a dewiswch eitemau i'w hychwanegu at eich casgliad; eich eitemau'ch hun neu unrhyw eitemau o'r miloedd sydd ar y safle yn barod.

 

Sut ydw i'n creu llwybr?

Mae llwybrau'n ffyrdd gwych o gael pobl allan, yn edrych ar dreftadaeth yn ei hamgylchoedd gwreiddiol a gwneud y gorau o gefn gwlad Cymru. Fe allant hefyd ddangos teithiau hanesyddol fel teithiau'r Porthmyn neu'r pererinion, neu hyd yn oed dangos y ffyrdd aeth y bobl a allfudodd i America neu Batagonia yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Drwy ddefnyddio Mapiau Bing Microsoft, mae'n gyflym ac yn hawdd creu llwybr ar wefan Casgliad y Werin Cymru.

- Ewch i Mapiau a Llwybrau, a dewiswch 'Creu Llwybr'.

- Fe fydd y dudalen gyntaf yn llwytho'r holl eitemau rydych wedi'u llwytho ac unrhyw eitemau sydd yn eich llyfr lloffion. Os oes gennych nifer fawr o eitemau yn eich llyfr lloffion, mi all gymryd amser hir i lwytho ac mi all fod yn anodd llywio. Efallai byddai'n syniad da clirio'ch llyfr lloffion ac ychwanegu'r rhai yr hoffech ar gyfer y llwybr.

- Unwaith maent wedi llwytho, llusgwch yr eitemau hoffech eu defnyddio ar y map. Fe fyddant yn ymddangos yn awtomatig lle maent wedi'u daear-leoli. Unwaith rydych wedi llusgo'r holl eitemau sydd angen arnoch, dewiswch 'Cam Nesaf'.

- Fe fydd y dudalen 'Llunio Llwybr' yn agor. Chwyddwch i mewn i le hoffech fraslunio'ch llwybr a phlotiwch y daith trwy glicio lle hoffech i'r daith ddechrau a phlotio'r llinell las o amgylch yr ardal. Pan ddewch i'r diwedd, cliciwch ddwywaith i orffen y llwybr a chliciwch nesaf.

- Yna bydd gofyn i chi lenwi ychydig o wybodaeth ynglyn âr llwybr – gadewch i bobl wybod am yr hyn gallant weld ar eich llwybr ac i ble mae'n mynd.

- Unwaith rydych yn hapus, cliciwch 'Cadw Llwybr' ac fe fydd yn cael ei anfon i'w gymedroli.

- Os hoffech olygu'ch llwybr yn y dyfodol, ewch i 'Eich Cyfrif' a 'Llwybrau'. Dewiswch yr eicon ysgrifbin a phapur o dan yr eitem i'w golygu. Yna gallwch ychwanegu mwy o eitemau o'ch llyfr lloffion neu newid yr wybodaeth sy'n gysylltiedig ag ef.

 

Beth yw cymedroli?

Mae'r holl gynnwys sy'n cael ei lwytho i'r safle'n cael ei gymedroli cyn iddo ymddangos i'r cyhoedd. Pan gyfrannwch eitem fe fydd gofyn i chi gynnig gwybodaeth fel teitl, disgrifiad, ac yn bwysig, gwybodaeth hawlfraint.

Unwaith rydych wedi cyflwyno eitem ar gyfer cymedroli, mae'n cael ei hasesu yn ôl Rheolau. Tra bod eitem yn cael ei chymedroli, mae hi'n weladwy i'r defnyddiwr ond nid i ddefnyddwyr eraill y wefan.