Gwefan yn llawn ffotograffau, recordiadau sain, dogfennau, fideos a straeon cyfareddol am hanes a threftadaeth Cymru a'i phobl yw Casgliad y Werin Cymru. Y cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Mae Casgliad y Werin Cymru yn dod â chasgliadau digidol y prif sefydliadau treftadaeth yng Nghymru at ei gilydd, ynghyd â chynnwys o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd llai, ac mae'n le gallwch rannu'ch stori am Gymru.
Mae'n cynnig mynediad cyflym a hawdd at dreftadaeth gyfoethog Cymru ac yn caniatáu i chi gyfrannu'ch cynnwys eich hun i wella'r amrywiaeth ar y safle ac i sicrhau y ceir hanes eich ardal chi.
Caiff y prosiect ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae'r wefan wedi'i datblygu gan y cwmni o Gymru, Sequence. Mae'n bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru ac mae llawer o bartneriaid eraill ynghlwm fel BBC Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, CADW, Croeso Cymru, Y Cerddwyr, S4C ac eraill.