Cardiau Nadolig gan y lluoedd arfog: Rhyfel Byd Cyntaf

Cardiau Nadolig gan y lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf 1915-1919. Aberystwyth Comforts Fund Papers, Cardiau Nadolig dderbyniodd Sarsiant Major Fear gan wahanol gatrodau.

Sefydlwyd The Aberystwyth Weekly Comforts for Fighters Fund yn 1915 e mwyn darparu ychydig o foethusrwydd i ddynion Aberystwyth a oedd yn ymladd dramor yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.  Sefydlwyd y gronfa gan yr Uwch-sarsiant Catrodol Thomas Richard Fear, gynt o’r Grenadier Guards, yn dilyn cais gan filwr lleol ar ran dynion Aberystwyth i  sigaréts gael eu hanfon atynt tra’n gwasanaethu dramor.  Rheolodd y gronfa yn llwyddiannus o Fehefin 1915 ymlaen, yn anfon moethau bach fel tybaco a chacennau i nifer o filwyr lleol.

I’r rhai nad oedd yn ysmygu , prynwyd cacennau a siocled yn lleol.  Rhoddwyd cerdyn neu lythyr o gysur oddi wrth yr Uwch-siarsiant Fear ym mhob parsel ac, ar adegau, cynhwysid papurau newydd fel y Cambrian News.  Gwnaed ymdrech neilltuol adeg y Nadolig i anfon parseli arbennig o gacen Nadolig, pwdin Nadolig, siocled a sigaréts i’r holl ddynion a oedd yn hysbys i’r gronfa.  Anfonwyd rhwng ugain a hanner cant o barseli gan y gronfa yn wythnosol.

Yn araf deg, daeth anfon parseli i filwyr dramor i ben yn dilyn y cadoediad ym mis Tachwedd 1918.  Yn hytrach, rhoddwyd parseli i filwyr fel arwydd o werthfawrogiad a chefnogaeth wrth iddynt ddychwelyd i Aberystwyth.

 

Mae 17 eitem yn y casgliad

  • 1,002
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,098
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi