Amodau a thelerau

Polisi Hawlfraint

 

Nod Casgliad y Werin Cymru yw gweithredu'n gyfreithlon ac yn gyfan gwbl annadleuol. Mae'r holl eitemau ar y safle hwn wedi'u diogelu gan hawlfraint.

 

Mae Casgliad y Werin Cymru'n wahanol i lawer o safleoedd ar y rhyngrwyd. Rydym yn cymryd hawlfraint o ddifrif. Mae'r sefydliadau cenedlaethol sydd wedi cyfrannu i'r safle hwn wedi cymryd gofal mawr i sicrhau fod eu deunyddiau'n cydymffurfio â chyfreithiau hawlfraint, er mwyn creu adnodd mawr a dibynadwy. Gobeithiwn y byddwch yn dilyn eu hesiampl a threulio amser i glirio'ch delweddau hefyd a pharchu hawliau perchnogion hawlfraint.

 

Rhaid i unrhyw un sy'n llwytho deunyddiau i'r safle fod naill ai perchennog yr hawlfraint neu gael caniatâd perchennog yr hawlfraint i wneud, ac fe fydd cwestiynau ynglŷn â chydymffurfio â hawlfraint wrth i chi lwytho.

 

Mae'r holl eitemau sydd ar y safle ar gael at bwrpasau addysgol a defnydd preifat anfasnachol o dan amodau'r Drwydded Archif Greadigol.

 

Mae cyfraith hawlfraint yn gymhleth. Rydym wedi ysgrifennu Canllaw Hawlfraint y gobeithiwn y bydd yn ddefnyddiol i chi.