Allwedd

<span lang="cy">Wrecsam, 1977</span>

Cliciwch ar y ddelwedd i'w hehangu.

Mae'r awyrlun hwn, a dynnwyd ym 1977, yn dangos ardal Croesnewydd yn Wrecsam. Yn y blaendir ar y gwaelod mae Cyffordd Rheilffordd Croesnewydd, gyda lein gangen Wrexham and Minera Branch yn rhedeg allan o'r llun ar y chwith, yn gwasanaethu ffowndrïau a chwareli'r ardal. Mae'r rheilffordd wedi cyfyngu ar ehangiad Ysbyty Maelor, a agorwyd yma ym 1934 ac a ellir ei weld ar ddwy ochr Watery Road yn rhedeg ar draws y llun o'r chwith i'r dde. I'r dde mae'r brif reilffordd o Gaer i'r Amwythig, gyda rheilffordd Wrecsam ac Ellesmere i'w gweld yn gwyro tuag at ganol y llun, cyn troi'n ô o dan y brif reilffordd tuag at Orsaf Ganolog Wrecsam. O fewn dolen y rheilffordd gellir gweld Iard Sborion Jaques.

Uwchlaw'r Ysbyty ar y llun gellir gweld datblygiad newydd o dai parod, ac i'w chwith, y tu ôl i'r coed mae Neuadd Maesgwyn. Roedd gan Gwmni Bysiau Crosville eu modurdy bysiau yma ar y pryd, a gellir gweld y bysiau nad ydynt yn gwasanaethu wedi parcio yn yr iard.

Roedd gan Neuadd Maesgwyn a'r datblygiad tai parod eu mynedfeydd yn agor ar Mold Road. Ar draws y ffordd yn eu hwynebu mae Maes Clwb Pêl-droed Wrecsam, y Cae Ras.

Nesaf at y Cae Ras mae Coleg Technegol Sir Ddinbych, sydd nawr yn brif adeilad Prifysgol Glyndŵr, a'r tu hwnt iddo ar ochr bellaf Plas Coch Road nesaf at y caeau rygbi mae Plas Coch. Dymchwelwyd ef er mwyn adeiladu'r Parc Manwerthu ar y tir. Ar y chwith ar frig y llun mae Ffordd Osgoi Wrecsam A483.

I'r dde ar frig y llun mae maestref Rhosddu, gyda'r adeilad concrit dur yn gartref i Goleg Chweched Dosbarth Iâl i'w weld ar Crispin Lane. Islaw mae Gorsaf Gyffredinol Wrecsam.

(Disgrifiad gan Gavin Spencer Smith).


Dyddiad: 01/01/1977

Crëwyd gan

Aerofilms Ltd.

Tagiwyd fel (cliciwch ar un o'r tagiau i weld yr holl eitemau eraill sy'n ei rhannu)

cliciwch ar un o'r tagiau i weld yr holl eitemau eraill sy'n ei rhannu
Ychwanegwyd gan RCAHMW
Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales
ar 05/07/2011
Sgôr awdur: Awdurdodol 5/5
A yw'r eitem hon yn ddefnyddiol?
2   pobl wedi canfod yr eitem hon yn ddefnyddiol

Sylwadau

Beth mae hwn yn ei olygu i chi?

 

Ble arall y gellir dod o hyd i'r eitem hon?

Porwch drwy'r tabiau isod i weld ym mha gasgliadau, llwybrau a grwpiau mae'r eitem hon yn cael ei defnyddio.


Rhannu hwn

Facebook

Twitter

E-bost


Casgliad y Werin Cymru

Darganfod...

  • 46,550 eitem
  • 1,174 casgliad
  • 292 stori
  • 3,276 Cyfranwyr

A chyfrannu eich deunydd eich hun er mwyn rhannu eich hanes

Ymunwch i gyfrannu